Taith Gyfnewid y Fflam Baralympaidd

London 2012 offers first look at Olympic Torch design
London 2012 offers first look at Olympic Torch design
The London Organising Committee (LOCOG) today showcases prototypes of the London 2012 Olympic Torch to be carried by 8,000 inspirational Torchbearers.The winning design connects the London 2012 Olympic Torch Relay to each of the 8,000 Torchbearers and their community. The Torch's triangular, gold-coloured form is perforated by 8,000 circles representing the 8,000 Torchbearers and their stories of personal achievement and/or contribution to their local community which will be celebrated during the London 2012 Olympic Torch Relay.

 ble fydd y Fflam Olympaidd yn ymweld?

Bydd y Fflam Olympaidd yn teithio o fewn awr i 95 y cant o bobl y DU, Ynys Manaw, Guernsey a Jersey yn ystod 70 diwrnod Taith Gyfnewid y Fflam. Bydd yn galluogi cymunedau lleol i ddwyn sylw at y gorau sydd gan eu hardal i'w gynnig - o dirwedd gyfareddol i ardaloedd trefol deinamig.

Gallwch weld y llwybr cyfan, yn cynnwys safleoedd dathliadau gyda'r nos, ymweliadau ag ynysoedd a mwy na 1,000 o gymunedau y bydd y Fflam yn teithio trwyddynt, ar fap Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd.

Cario'r Fflam Olympaidd

Ynghyd â'n Partneriaid Cyflwyno Coca Cola, Lloyds TSB a Samsung, mae Llundain 2012 yn dewis 8,000 o bobl ysbrydoledig ar hyd a lled y DU i gario'r Fflam Olympaidd - profiad unwaith mewn oes.

Nawr mae cynigion amodol wedi cael eu rhoi i'r rhai hynny sydd â straeon eithriadol, a bydd llefydd yn cael eu cadarnhau erbyn Mawrth 2012.

Bydd pob Cludwr y Fflam yn cario'r Fflam am tua 300 metr. Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau y bydd pob Cludwr y Fflam yn cario'r Fflam yn, neu yn agos i'w ardal leol, fel y gall eu ffrindiau a'u teuluoedd eu cymeradwyo ar hyd y ffordd.

Bydd yn daith gyfnewid drwy gyfrwng y Saesneg a bydd angen i'r bobl fydd yn cymryd rhan allu siarad Saesneg elfennol.

Partneriaid Cyflwyno

Coca-Cola, Lloyds TSB a Samsung yw tri Phartner Cyflwyno Cyfnewid y Fflam Olympaidd. Bydd pob un yn helpu Llundain 2012 i recriwtio'r 8,000 o Gludwyr y Fflam fydd yn cario'r Fflam Olympaidd.

Hanes a thraddodiad

Mae gwreiddiau'r Fflam, y Dortsh a'r Daith Gyfnewid Olympaidd yn mynd yn ôl i'r Hen Gemau Olympaidd yng Ngwlad Groeg ac roeddent yn rhan bwysig o wyliau diwylliannol yr Hen Gemau.

Cynhaliwyd Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd am y tro cyntaf yn yr oes fodern yng Ngemau Berlin 1936 ac fe'i seiliwyd ar y seremonïau hynafol. Caiff arwyddocâd y ddefod - a'r alwad am heddwch - ei barchu hyd heddiw yn Nhaith Gyfnewid y Fflam fodern.

Cynnau'r Fflam

Cynhelir defod fanwl ar gyfer cynnau'r Fflam ym mhob un o'r Gemau. Caiff ei chynnau o belydrau'r haul yn Nheml Hera yn Olympia, Gwlad Groeg. Yn dilyn taith gyfnewid fer o gwmpas Gwlad Groeg, caiff y Fflam ei throsglwyddo i'r Ddinas Gynnal newydd mewn seremoni arall yn stadiwm Panathenaiko yn Athen.

Yna cludir y Fflam i'r Wlad Gynnal, ble caiff ei throsglwyddo o un Cludwr y Fflam i'r llall, gan ledaenu neges heddwch, undod a chyfeillgarwch.

Daw i ddiwedd ei thaith wrth i'r olaf o Gludwyr y Fflam gynnau'r crochan yn Seremoni Agor y Gemau Olympaidd yn y Stadiwm Olympaidd, gan nodi bod y Gemau wedi cychwyn yn swyddogol. Diffoddir y Fflam ar ddiwrnod olaf y Gemau yn y Seremoni Gloi.


Olympic Torch Relay
advertisement
You need to be logged into Facebook to enable social sharing on London2012.com

Most recent activity

  • You do not have any activity yet

Added to your activity
x

x
Remind me every time I add to my activity