Taith Gyfnewid y Fflam Baralympaidd

The Paralympic Torch
The Paralympic Torch
The Paralympic Torch, photographed for its official unveiling.

Gweledigaeth Taith Gyfnewid y Fflam Baralympaidd

Bydd taith Gyfnewid Fflam Baralympaidd Llundain 2012 yn cael ei chynnal rhwng 24 a 29 Awst 2012, yn dilyn Seremoni Gloi'r Gemau Olympaidd. Bydd iddi lais nodedig ac unigryw: dathlu grym ymdrech ac egni'r ddynoliaeth wrth baratoi ar gyfer y Gemau Paralympaidd.

Bydd y Daith Gyfnewid yn cychwyn yn Llundain ar ddydd Gwener 24 Awst pan fydd Fflam Lloegr yn cael ei chynnau. Yna bydd tair prif ddinas arall y Deyrnas Unedig - Belfast, Caerdydd a Chaeredin - yn cynnau Fflam ar bob un o'r dyddiau canlynol, mewn digwyddiadau Cynnau Fflam arbennig. Bydd pob dinas yn datblygu ei dull unigryw o gynnau. Bydd Gŵyl y Fflam yn cael ei chynnal gyda'r nos i ddathlu ym mhob gwlad: yng Nghaerdydd bydd yn digwydd ar ddydd Llun 27 Awst.

Yna bydd y pedair Fflam yn teithio i Stoke Mandeville, man geni'r Gemau Paralympaidd, ar 28 Awst 2012. Yno byddant yn cael eu huno i greu Fflam Baralympaidd Llundain 2012.

Yn ystod y 24 awr olaf, bydd Taith Gyfnewid y Fflam yn cludo'r Fflam Baralympaidd o Stoke Mandeville i Lundain ar gyfer tanio'r crochan yn Seremoni Agor y Gemau Paralympaidd.

Cymryd rhan

Rydym eisiau i'r DU gyfan gymryd rhan, yn dathlu ysbryd Taith Gyfnewid y Fflam Baralympaidd yng Ngwyliau'r Fflam. Bydd digwyddiadau creu llusernau yn cael eu cynnal cyn Gwyliau'r Fflam a bydd pobl o bob cefndir yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn finale Gŵyl y Fflam - gorymdaith lusernau gyda Chludwyr y Fflam detholedig.

Yna bydd 580 o Gludwyr y Fflam yn gweithio mewn timau o bump i gario'r Fflam i Lundain yn ystod y Daith Gyfnewid 24 awr fydd yn cychwyn ar ddydd Mawrth 28 Awst.

Hanes

Mae taith Gyfnewid y Fflam Baralympaidd yn rhan allweddol o gynnal y Gemau Paralympaidd. Mae'n gyfle i ymgysylltu â chymunedau ac i greu cyffro wrth i'r Gemau agosáu.

Cynhaliwyd Taith Gyfnewid y Fflam Baralympaidd gyntaf yng Ngemau Paralympaidd Seoul 1988 – roedd yna 282 o Gludwyr y Fflam, a 111 ohonynt yn bobl anabl. Cynhaliwyd Taith Gyfnewid y Fflam ym mhob un o Gemau Paralympaidd yr Haf a'r Gaeaf ers hynny.

Partneriaid Cyflwyno

Tri Phartner Cyflwyno Taith Gyfnewid y Fflam Baralympaidd yw BT, Lloyds TSB a Sainsbury's. Mae gan y tri sefydliad hanes gwych o weithio gyda chymunedau. Rydym yn falch o gael gweithio gyda hwy er mwyn tanio cyffro pobl cyn 11 diwrnod o chwaraeon Paralympaidd campus.


Olympic Torch Relay
advertisement
You need to be logged into Facebook to enable social sharing on London2012.com

Most recent activity

  • You do not have any activity yet

Added to your activity
x

x
Remind me every time I add to my activity