Cymru

Ensuring Wales benefits from London 2012
Ensuring Wales benefits from London 2012
Ensuring Wales benefits from London 2012

Ein gweledigaeth yw amlhau i’r eithaf y budd a ddaw yn economaidd, drwy chwaraeon, diwylliant  ac yn gymdeithasol o Gemau Llundain 2012 i Gymru mewn dull cynaliadwy.    

Gwnawn hyn gyda pharch llawn i’r cyfleoedd i hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiad cymdeithasol, dwyieithrwydd  a phroffil Cymru yn y byd.

Cynllunio a chyflenwi

Byddwn yn canolbwyntio ar ardaloedd allweddol er mwyn cyflawni’n gweledigaeth:
• Gwell iechyd
• Annog chwaraeon a gweithgaredd
• Perfformiad a rhagoriaeth mewn chwaraeon
• Hyrwyddo gwirfoddoli
• Dathlu amrywiaeth 
• Dangos diwylliant Cymru
• Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg

Mae Grŵp Llywio Cymru i Gemau 2012 yn gweithio i gyrraedd yr amcanion hyn. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr y llywodraeth gyda’r sectorau chwaraeon, diwylliant, busnes a gwirfoddol hefyd yn cael eu cynrychioli.

Cyflawni’r weledigaeth

Bydd Cymru’n gartref i 11 o gemau pêl-droed Olympaidd yn Stadiwm y Mileniwm. Fodd bynnag, mae nifer o ddulliau eraill y gall bobl sy’n byw yn y rhanbarth fod mewn cysylltiad â Llundain 2012

Cyfnewid y Ffagl Olympaidd
Bydd gan Gymru ei rôl yng Nghyfnewid y Ffagl Olympaidd gyda nifer o ddathliadau fin nos yn digwydd ledled y wlad.  
Bydd rhan Cymru o Gyfnewid y Ffagl Para Olympaidd yn digwydd yng Nghaerdydd  ar 27 Awst. 

Yr Olympiad  Diwylliannol
Dim ond un o brosiectau’r Olympiad Diwylliannol yng Nghymru yw Grym y Fflam. Mae’r prosiect yn cofleidio safleoedd treftadaeth unigryw Cymru, hanes y dynion a’r merched fu’n cymryd rhan mewn chwaraeon, ein hartistiaid ifanc anabl , ein traddodiadau Eisteddfodol a’n hiaith. 
Bydd gan Gymru bum prif brosiect unigryw dan faner Grym y Fflam
1. Peiriau a ffwrneisiau – Dod â hanes yn fyw
2. Dilyn y fflam – hanes newydd y Gemau ac athletwyr Cymru ers 1896
3. Mzansi Cymru – dod â Chymru a De Affrig at ei gilydd mewn darn mawr o theatr
4. Pwy biau’r fflam beth bynnag?  - Cynyddu llais pobl anabl yng Nghymru, gan gynnwys perfformiad gan Gerddorfa Genedlaethol BBC Cymru mewn gwaith symffonig 2012 a gyfansoddwyd yn arbennig gan rywun 18 mlwydd oed. 
5. Cynnau dawn – wedi’i ddatblygu gydag Urdd Gobaith Cymru, sefydliad ieuenctid mwyaf Ewrop. Bydd Gemau 2012 yn annog datblygu prosiectau uchelgeisiol a fydd yn cofleidio diwylliant a chwaraeon. 

Mae Grym y Fflam wedi cynnwys dros 48,000 o bobl ers ei ddechrau, a rhagwelir y bydd dros 60,000 o bobl yn gysylltiedig ag ef yn ystod blwyddyn 2012 – 13. 

Mae Adain Avoin yn brosiect arall yr Olympiad Diwylliannol, a bydd Artistiaid Cymru yn cael y prif gomisiwn. Cyllidir hyn gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd corff awyren DC9 yn teithio drwy Gymru gan ddarparu gofod i weithdai ac arddangosfeydd. Bydd ‘recordydd y bocs du’ yn ffilmio pob digwyddiad i mewn ac o amgylch corff yr awyren a chaiff ei chyflwyno i Gasgliad y Bobl yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ddiwedd haf 2012.  

Gwersylloedd Hyfforddi cyn y Gemau
Mae’n agos i 1,000 o athletwyr a staff cymorth yn hyfforddi yng Nghymru cyn i Gemau Llundain 2012 ddechrau, ac yn dod o leiaf 19 o wahanol wledydd. Bydd sawl cenedl Olympaidd a Pharalympaidd yn aros yng Nghymru i hyfforddi, gan gynnwys Pwyllgor Paralympaidd Awstralia, Paralympaidd Seland Newydd, tîm Paralympaidd De Affrica a thîm Olympaidd Trinidad a Thobago. 

Anelwn at godi proffil y Gemau yng Nghymru a phroffil Cymru yn y byd drwy berthynas chwaraeon, diwylliant ac economaidd gynaliadwy â’r gwledydd hynny. 

Ysbrydoli
Mae rhaglen Ysbrydoli Llundain 2012  yn cydnabod prosiectau arloesol ac eithriadol gaiff eu hysbrydoli’n uniongyrchol gan y Gemau. Ym mis Ionawr 2012 roedd 85 o brosiectau Marc Ysbrydoli yng Nghymru. Cymerodd dros 100,000 ran yn y prosiect Marc Ysbrydoli nad oedd yn ddiwylliannol ac oedd wedi elwa o fuddsoddiad prosiect o dros £2 filiwn. 
Lansiwyd Gemau Cymru, prosiect blaenllaw’r etifeddiaeth chwaraeon, yn Ionawr 2011, digwyddiad aml chwaraeon i blant ysgol Cymru gyfan gyda naw elfen gystadleuol. Yn rhedeg i ddechrau am dair blynedd mae’r rhaglen yn bartneriaeth rhwng y sector breifat, y sector gyhoeddus a’r drydedd sector fydd yn cyflwyno etifeddiaeth chwaraeon i Gymru fydd yn parhau. Yn 2012 bydd Gemau Cymru yn digwydd rhwng 13 – 15 Gorffennaf yng Nghaerdydd. 

Byddwch Barod (Get Set)
Ddiwedd 2011, cofrestrodd 956 o ysgolion yng Nghymru - cyfanswm o  53% - gyda chynllun addysg Llundain 2012 ‘Get Set’. O’r rhain cofrestrodd 573 ar y rhwydwaith Get Set, sy’n darparu cyfle i wneud cais am docynnau i Lundain 2012 drwy gynllun Rhannu Tocyn (Ticketshare) Llundain 2012, yn ogystal â bod a chyfle i gario’r Fflam Olympaidd.    

Mae rhai ysgolion yng Nghymru yn cefnogi cynllun Cefnogwch Genedl, gan ddilyn cenhedloedd nad ydynt yn perthyn i’r Deyrnas Unedig yn eu paratoadau ar gyfer y Gemau. 

Etifeddiaeth economaidd
Enillwyd pum deg dau o gytundebau gan fusnesau yng Nghymru, gwerth £38m. Mae’r cwmnïau’n cynnwys: 
- Rowecord, Casnewydd  – dur i do y Ganolfan Ddyfrol;
- Euroclad, Caerdydd– cladin allanol i eisteddle gorllewinol y Stadiwm;
- B&W Tunnelling, Pen-y-bont ar Ogwr – draenio a gwasanaethau wedi’u claddu yn y Parc Olympaidd; 
- Express Reinforcements, Castell-nedd – atgyfnerthu’r Stadiwm;
- Williamson Technical Services, Conwy – gwasanaethau safle arbenigol i’r stadiwm;
- Bluebay Building Products, Caerdydd – concrid cyfnerth i adeiladu pontydd a chefnffyrdd ar y Parc Olympaidd.

Sicrhawyd o leiaf 14 cytundeb ychwanegol, gan gynnwys cytundeb y Bathdy Brenhinol i gynhyrchu Medaliwn Olympaidd a Pharalympaidd a setiau darnau arian coffaol. Mae gan y Bathdy Brenhinol dros 25 o gyflenwyr wedi’u cyflogi’n rhanbarthol ac yn genedlaethol, a dyma’r prosiect mwyaf a wnaed o gryn dipyn ers degoli yn 1971.    

Cofrestrodd dros  3,600 o fusnesau Cymreig  ar CompeteFor, safle meddiannu broceriaeth Llundain 2012. Cafodd dros 1,000 eu gosod ar y rhestr fer i gytundebau a gyhoeddwyd drwy’r safle hon. 

Gwirfoddoli 
Derbyniwyd miloedd o geisiadau o  Gymru  gan Bwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd LOCOG i fod yn Wneuthurwyr Gemau Llundain 2012, y gweithlu o 70,000 o wirfoddolwyr. Cynhaliwyd y cyfweliadau yn y Gyfnewidfa Lo , Caerdydd ym Mehefin 2011, gyda bron i 2,000 o bobl yn cael eu cyfweld.  
Mae cyrff gwirfoddoli yng Nghymru’n weithredol yn annog  Gwneuthurwyr Gemau i wirfoddoli’n lleol, gan gynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a GwirVol. Mae ymdrech recriwtio Cynllun Llysgenhadon Dinas Groesawu Chwaraeon Caerdydd yn amcanu at recriwtio tua 300 o wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda Gwersylloedd Hyfforddi Cyn y Gemau ac i groesawu a chyfeirio ymwelwyr i Stadiwm y Mileniwm.

Twristiaeth
Mae Croeso Cymru yn gweithio gyda Visit Britain, Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd (LOCOG) a phartneriaid allweddol eraill i godi proffil a chyflwyno rhesymau cadarnhaol dros ymweld â Chymru yn ystod ac wedi 2012.  
Mae Croeso Cymru a phartneriaid eraill yn weithredol yn hyrwyddo Cymru a diwylliant Cymru drwy raglen yr Olympiad Ddiwylliannol, yr ymwelwyr, y rhai sy’n cymryd rhan a’r cyfryngau fydd yn dod i Gymru a thrwy ymgyrchoedd defnyddwyr twristiaeth wedi’u brandio.

Gwybodaeth Cysylltu

Am bob ymholiad mewn perthynas â chynlluniau Cymru i elwa o’r Gemau 2012, anfonwch e-bost: Sandra.wooldridge@wales.gsi.gov.uk Am wybodaeth bellach am yr hyn mae Cymru’n ei wneud i hyrwyddo Llundain 2012 drwy weithgarwch perthnasol yng Nghymru cliciwch yma www.visitwales.co.uk/walesin2012  NEU www.walesin2012.com 


advertisement
You need to be logged into Facebook to enable social sharing on London2012.com

Most recent activity

  • You do not have any activity yet

Added to your activity
x

x
Remind me every time I add to my activity