Beth yw’ch breuddwyd?

Croeso i Freuddwyd Beiciau — cystadleuaeth unigryw gan Awdurdod Gweithredu’r Gemau Olympaidd (ODA) a fydd yn cynnig cyfle i bobl ifanc ledled y DU brofi swyn y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd.
Mae’r cyffro ynghylch Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 yn codi. Nid yn unig y bydd yn arddangos doniau gorau’r byd ym maes chwaraeon, bydd hefyd yn gadael buddion hirdymor a fydd yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
Bydd y gystadleuaeth hon yn rhoi prawf ar sgiliau cynllunio, creadigol a disgrifiadol pobl ifanc. Fel rhan o’n hymrwymiad i gynnwys pobl ifanc ledled y DU yn yr ysbryd Olympaidd a Pharalympaidd, rydym yn gofyn i ddisgyblion hyd at 16 oed i ddylunio Parc Beicio eu breuddwydion fel lle i gynnal digwyddiadau beicio yn y dyfodol a chael ei ddefnyddio gan gymunedau lleol trwy gydol y flwyddyn.
Felly, p’un a ydych chi’n athro, yn ddisgybl neu’n rhiant gallwch chwarae rhan trwy gofrestru diddordeb eich ysgol. A thrwy gymryd rhan byddwch yn cael cyfle i ennill amrywiaeth ryfeddol o wobrau.
Ydych chi’n barod i rasio? Trwy
gofrestru, gall athrawon lawrlwytho ein Pecyn Adnoddau rhad ac am ddim, sy’n cynnwys popeth y mae ei angen ar eich ysgol i gael Breuddwyd Beiciau!
'Mae i’r Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd hanes toreithiog, ond roedd pobl ifanc a dyfodol y DU hefyd yn sail i’n cais llwyddiannus. Nawr, gyda lansiad cystadleuaeth Breuddwyd Beiciau, mae gan bobl ifanc y cyfle i brofi ysbryd y Gemau a bod yn rhan o’r paratoadau at Lundain 2012. Rwy’n siŵr y bydd pobl ifanc yn creu llawer o ddyluniadau syfrdanol - ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i’w gweld!'
Sebastian Coe, Cadeirydd, Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd
Mae’r gystadleuaeth hon yn ddim ond un o nifer fawr o ffyrdd cyffrous y bydd ysgolion a phobl ifanc yn gallu bod yn rhan o Gemau 2012. Bydd mwy o fanylion Rhaglen Addysg Llundain 2012 yn dilyn yn hwyrach yn y flwyddyn felly cadwch lygad ar ein gwefan dros y misoedd nesaf i gael gwybod mwy.
English