Rhodri Glyn Thomas, Welsh Sports Minister, 20 March 2008
(English below)
Yn sgil buddugoliaeth wych Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, teithiais i bencadlys Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain i gyfarfod â Sebastian Coe, a’i dîm yn LOCOG, i siarad am y ffordd orau y gall Cymru gyfan fanteisio ar y Gemau. Mae ein timau mewn cysylltiad â’i gilydd yn aml, ond roedd yn help cael eistedd gyda’n gilydd yn ei swyddfa yn Canary Wharf a thrafod ystod o faterion y mae pobl o bob rhan o Gymru yn siarad â mi yn eu cylch pan fyddaf yn eu gweld - o’r bwriad i weithio gyda phlant a phobl ifanc i ddiwylliant, addysg ac - wrth gwrs - chwaraeon.

Mae ei swyddfa’n ddigon uchel i allu gweld y Parc Olympaidd yn y pellter, a gwnaeth Seb dynnu fy sylw at hyn. Mae’r parc ei hun yn brosiect anferth sy’n ganolog i’r Gemau, ond mae cymaint o bethau eraill i’w hystyried - manteision posibl presenoldeb Tîm Paralympaidd Awstralia yng Nghymru i ymarfer, y ffaith y bydd busnesau o Gymru yn cael contractau, a sicrhau ‘Safleoedd Byw’ lleol.
Wrth i’r cynnwrf gynyddu a ninnau’n nesáu at y Gemau yn Beijing ym mis Awst a mis Medi, bydd llygaid y byd yn troi nid yn unig at Lundain, ond at y wlad gyfan hefyd - ac rwyf am i Gymru fod yn amlwg i bawb fel cenedl fach sy’n llawn diwylliant ac sy’n llwyddiannus iawn ym maes chwaraeon. Roedd Seb yn arbennig o falch o glywed am ‘Anelu am Aur’, ein prosiect yng Nghasnewydd lle mae miloedd o bobl wedi cofrestru i gymryd rhan mewn chwaraeon a gwella eu hiechyd. Rwy’n credu bod hwn yn rhywbeth y gellid ei ddatblygu ymhellach, a gallai gweddill y wlad ddysgu o hyn. Tebyg iawn i’n buddugoliaeth ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, efallai?
Read more of
“Cymru’n dod i Lundain - Wales comes to London”