• Normal colour scheme
  • Dyslexia colour scheme
  • High visual colour scheme

Cymru

 
Welsh football supporeters

Contact information

Gyda phob ymholiad ynglŷn â chynlluniau Cymru i fanteisio ar Gemau 2012 e-bostiwch: wales@london2012.com
Sicrhau’r buddion mwyaf posibl i Gymru ym maes chwaraeon ac yn y meysydd economaidd, diwylliannol a chymdeithasol o Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012, mewn ffordd gynaliadwy. Byddwn yn gwneud hyn gan roi sylw llawn i’r cyfleoedd i hybu cydraddoldeb, cynhwysiant cymdeithasol, dwyieithrwydd a phroffil Cymru yn y byd.

Gwireddu ein gweledigaeth

Byddwn yn canolbwyntio ar feysydd allweddol er mwyn gwireddu ein gweledigaeth:

  • Gwella iechyd – Rydym eisiau defnyddio’r Gemau fel cyfle unwaith mewn oes i greu newid sylweddol yn iechyd y genedl. Rydym eisiau gwneud gwelliannu mesuradwy i les corfforol a meddyliol pobl, trwy ddatblygu sgiliau a phrosiectau adfywio, ac i lefelau gweithgarwch corfforol, maethiad a phwysau.
  • Hybu chwaraeon a gweithgarwch – Rydym eisiau sicrhau y bydd y Gemau’n ysbrydoli pobl ifanc i ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon. Byddant hefyd yn ysbrydoli oedolion: mae Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd targedau ‘Dringo’n Uwch’ Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol erbyn 2012.
  • Chwaraeon lefel uchel – Rydym yn gosod targedau ar gyfer chwaraeon lefel uchel, gyda’r nod o weld Cymry sy’n cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn ennill o leiaf 15 medal rhwng 2004 a 2024. Byddwn hefyd yn cefnogi Cymry sy’n cymryd rhan yn y Gemau Paralympaidd fel y gallant ailadrodd eu perfformiadau campus yn Sydney 2000 ac Athen 2004 o ran nifer y medalau a enillwyd.
  • Gwersylloedd hyfforddi cyn y Gemau – Rydym yn gobeithio creu cyfleoedd busnes newydd i gyflenwyr lleol nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau. Rydym hefyd yn anelu at godi proffil y Gemau yng Nghymru a phroffil Cymru yn y byd trwy gysylltiadau cynaliadwy ym maes chwaraeon a’r meysydd diwylliannol ac economaidd gyda’r gwledydd sy’n dod i Gymru i hyfforddi cyn y Gemau neu yn ystod y Gemau.
  • Creu busnes - Byddwn yn sicrhau y bydd Cymru’n cael y buddion economaidd a masnachol gorau posibl o’r Gemau. Byddwn yn arddangos i’r byd y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig mewn arloesed, gwyddoniaeth a thechnoleg.
  • Datblygu sgiliau ac addysg – Byddwn yn defnyddio’r Gemau i gynyddu’r nifer sy’n ymwneud â datblygu addysg a sgiliau.
  • Cynyddu twristiaeth - Rydym eisiau rhoi hwb cynaliadwy i’r economi ymwelwyr a gwella safonau hyfforddiant a sgiliau ym mhob rhan o’r sector twristiaeth. Bydd cynnal un o ddigwyddiadau’r Gemau yn Stadiwm y Mileniwm yn codi proffil Cymru a byddwn yn sicrhau y bydd y cyfle hwn yn creu’r potensial mwyaf posibl.
  • Hyrwyddo gwirfoddoli – Rydym yn anelu at ddefnyddio rhaglen gwirfoddoli 2012 i helpu i hybu recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr a sicrhau cyfraniad gweithgar ganddynt ledled Cymru, yn enwedig mewn cymunedau lle mae’r angen mwyaf. Rydym eisiau cynifer ag sy’n bosibl o wirfoddolwyr o Gymru i wneud cyfraniad cadarnhaol i Bwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd a chynnal y Gemau’n llwyddiannus ac i barhau i wirfoddoli ymhell ar ôl y Gemau.
  • Dathlu amrywiaeth – Bydd y Gemau’n adlewyrchu ac yn anrhydeddu amrywiaeth ledled y DU, gyda’r cyfle i arddangos delwedd rymus, gyfoes, unigryw a chynhwysol o Gymru ar draws ei hagweddau a’i phoblogaethau amrywiol.
  • Arddangos diwylliant Cymru – Rydym yn anelu at sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl gan Gymru i raglen yr Olympiad Diwylliannol, gan hyrwyddo delwedd rymus a chyfoes o Gymru i’r byd. Byddwn yn ychwanegu gwerth cynaliadwy i ddigwyddiadau diwylliannol Cymru a’i hapêl i dwristiaid, gan annog cymunedau amrywiol i gymryd rhan mewn dathliad bywiog ar draws y genedl.
  • Hybu’r Gymraeg – Byddwn yn sicrhau’r proffil mwyaf posibl i’r Gymraeg ac yn ei defnyddio gymaint ag sy’n bosibl yng nghyd-destun Gemau 2012.
  • Gadael etifeddiaeth barhaol – Yr amcan o ran etifeddiaeth yw peidio ag ailddyfeisio’r olwyn na buddsoddi mewn prosiectau mawr a fyddai’n gysylltiedig â Gemau 2012. Yn hytrach byddwn yn asesu ac yn penderfynu pa gyfleoedd a blaenoriaethau sy’n bodoli eisoes y gellir eu hyrwyddo’n briodol, gan wneud y mwyaf o’r cyfleoedd y mae’r Gemau’n eu cynnig.

 

Cynllunio a darparu – gwireddu’r weledigaeth

Mae Grŵp Llywio Cymru ar gyfer Gemau 2012 yn gweithio i wireddu ein gweledigaeth. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o lywodraeth a hefyd sectorau chwaraeon, diwylliant a busnes a’r sector gwirfoddol.

Llwytho i lawr ffeil PDF o strwythur cynllunio 2012 yng Nghymru.
Nations Regions Lynn Davies

Lynn Davis, Enillydd medal aur y Gemau Olympaidd yn y Naid Hir yn 1964, cyn Reolwr Tîm Prydain, cyn Gyfarwyddwr Technegol Athletau Canada.

‘Does dim un digwyddiad chwaraeon yn y byd nad yw’n gallu cael cartref ysbrydol yma yng Nghymru. Mae chwaraeon wrth fodd calon Cymru ac mae’n harneisio’r grym hwnnw i gyffwrdd â phobl, yn hen ac yn ifanc, ac yn dod â nhw ynghyd i gefnogi un nod.

Diolch i statws Cymru ym maes chwaraeon a’i hamlygrwydd cynyddol ym maes diwylliant rydym wedi croesawu llu o ddigwyddiadau o’r radd flaenaf i’n gwlad ac rydym wedi rhoi llwyfan i rai o’n canolfannau hynod, megis Stadiwm y Mileniwm, y Felodrom Cenedlaethol a’r Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol, a hynny mewn steil.

Mae’r Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd ymhlith y digwyddiadau chwaraeon mwyaf i gael eu llwyfannu. Rhaid i ni ystyried llwyfan Llundain 2012 yn gyfle anhygoel i’n cenedl fach ddangos yr hyn sydd gennym i’w gynnig i weddill y byd – a hwnnw’n gyfle euraid!’